Am ddim
DVD( addas ar gyfer
gwasanaeth) i bawb sy’n cofrestru
Plant dros Blant
Yn hyrwyddo ffitrwydd yn ein hysgolion
ac yn rhoi cymorth i blant dan anfantais
ym mhob cwr o’r byd.
“Gyda dyfodiad Gemau Olympaidd Llundain yn 2012
mae gennym gyfle gwirioneddol i ysbrydoli plant
i ymarfer yn ogystal ag hyrwyddo
dyfodol iachach ar gyfer gwledydd Prydain.
Ymunwch nawrâ Plant dros Blant 2008
- byddwch yn datblygu chwaraeon yn
eich ysgol ac yn helpu i wella bywydau plant
yn y gwledydd sy’n datblygu.”
Pencampwraig Olympaidd ddwywaith a Phencampwraig Genedlaethol
Chwaraeon Ysgol
Dychweler at:
Plant dros Blant
Blwch P.O. 49
Llandeilo SA19 8WY
neu - llenwch y ffurflen archebu
ar lein:
www.schoolchildrenforchildren.org.
Byddwn – byddwn yn cymryd rhan
yn y weithgaredd ar
14 Mawrth 11 Gorffennaf 26 Medi (ticiwch)
ac/neu yn trefnu gweithgareddau ar adegau
eraill (nodwch y manylion isod):
_____________________________________
Cofrestrwch ein clwb ysgol/chwaraeon o.g.y.dd.
Cyswllt: Mr./Mrs./Ms. ______________________
Swydd: ___________________________________
Cyfeiriad: ________________________________
_________________________________________
_________________________________________
___________________Cod Post:______________
Awdurdod Addysg Lleol: ___________________
Ffôn: ________________ Est: _______________
e.bost ysgol/clwb:__________________________
e. bost personol: __________________________
(ar gyfer cyswllt yn unig)
Nifer y disgyblion a fydd yn cymryd rhan: ______
(yn fras):
“Mae’n Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ysgol yn
croesawu’r fenter hon a fydd yn annog pobl ifanc i fod
yn heini ond a fydd hefyd yn codi arian er mwyn
helpu plant mewn rhai o wledyd tlotaf y byd.”
Yn hyrwyddo ffitrwydd yn ein hysgolion ac yn
rhoi cymorth i blant dan anfantais ym mhob
cwr o’r byd.
Plant dros Blant
Blwch PO 49
Llandeilo SA19 8WY
Ffôn: 0845 450 5889
Ymholiadau’r cyfryngau: 020 7630 9778
Symudol Iestyn Thomas: 07734 150 187
e bost: info@schoolchildrenforchildren. org
www.schoolchildrenforchildren.org (mae fersiwn Cymraeg ar gael ar y wefan)
Rhif Elusen Cofrestredig: 1109055
Atebolwydd cyfyngedig corfforedig yng Nghymru a Lloegr, rhif cwmni 5318179
Swyddfa gofrestredig 9 New Square, Lincoln’s Inn, London WC2A 3QN
Ydych chi eisiau ennyn brwdfrydedd eich
disgyblion mewn ymarfer corff? Ydych
chi eisiau codi arian ar gyfer eich adran
Addysg Gorfforol neu glwb chwaraeon lleol?
Trwy ymaelodi gyda Plant dros Blant gallwch
wneud hyn yn ogystal â chynorthwyo plant
mewn angen ar draws y byd.
Lansiwyd Plant dros Blant yng Nghymru
yn 2004 ac ers hynny codwyd £200,000 mewn
gweithgareddau wedi eu noddi. Cofrestrwch
nawr ar gyfer 2008.
Yn 2008 byddwn yn cynnal tri prif ddiwrnod ar
gyfer gweithgareddau – 14 Mawrth, 11 Gorffennaf
a 26 Medi.
I gofrestru llenwch y ffurflen arlein ar www.schoolchildrenforchildren.org Neu gallwch
bostio neu ffacsio’r ffurflen ar gefn y daflen hon.
Newydd ar gyfer 2008!
Bydd pob ysgol sy’n cofrestru ar gyfer Plant dros
Blant yn derbyn DVD o’r enw ‘A day in the life’
yn rhad ac am ddim. Rhaglen ddogfennol
ddadlennol yw hi sy’n dilyn hynt a helynt bachgen
ifanc o’r enw Bashir sy’n byw yn un o slymiau
mwyaf Kenya sef Korogocho. Mae Korogocho yn
gartref i rai o blant mwyaf difreintiedig y byd.
Trwy’r elusen hon, cynorthwyodd arian a godwyd
gan blant gwledydd Prydain i ddarparu ysgol
Bashir, St. Prisca, â chymorthdal sy’n sicrhau bod
y plant yn ddyddiol yn cael pryd o fwyd , cael dillad
ysgol, cael llyfrau ysgol ac angenrheidiau megis
gofal iechyd. Diolch i Blant dros Blant mae bywydau
plant megis Bashir, sy’n byw mewn gwledydd sy’n
datblygu, wedi eu trawsnewid.
Beth am gerdded neu redeg, chwarae pêl-droed neu rygbi, nofio ras gyfnewid neu hyd yn oed sgipio neu ddawnsio. Dyma 20 rheswm da pam y dylai’ch ysgol neu glwb chwaraeon ymaelodi ar gyfer Plant dros Blant
- Mae’n hawdd.
- Mae’n hawdd i’w drefnu.
- Mae’n hwyl.
- Mae DVD ar gael sy’n llawn gwybodaeth i ennyn brwdfrydedd
- Gallwch weithio fel grŵp neu glwb
- Mae’n rhoi cyfle i bawb gyd-fwynhau ar yr un pryd
- Neu gallwch gymryd rhan fel grŵp bach, dosbarth neu fel tîm
- Mae’n cynorthwyo plant i fod yn fwy heini a byw bywyd iachach
- Gall bawb gymryd rhan yn ôl safon neu ddiwydrwydd
- Mae HOLL gostau gweinyddol yr elusen yn cael eu noddi o ffynonellau eraill
- Felly, mae pob ceiniog a godir yn mynd tuag at eich ysgol/clwb a phrosiectau Plant dro Blant dramor
- Gall eich Ysgol/Clwb gadw hanner y swm a godir
- Gallwch godi’r lleiafswm sef £1 yr un neu lawer iawn mwy
- Mae ffurflenni noddi ar gael ar-lein unwaith y byddwch wedi cofrestru
- Mae cyd-weithio gyda Plant dros Blant sy’n Elusen Genedlaethol yn gyfle i chi amlygu’ch ysgol/clwb
- Gall Plant dros Blant eich cynorthwyo i farchnata a hyrwyddo eich gweithgaredd
- Ychwanegir enw eich Ysgol/Clwb ar y safle braint ar ein gwefan
- Gellir gweld pob prosiect a gefnogwyd gan Plant dros Blant ar y wefan
- Mae Plant dros Blant yn hybu Dinasyddiaeth Fyd-eang ac ymwybyddiaeth o anghenion eraill
- Sylweddola plant eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth
“Mae’r rhan fwyaf o’n cyfran ni o’r arian
yn cael ei wario ar wella rhaglenni all-gyrsiol
ar gyfer merched yn C.A.4. Rydym yn
datblygu dosbarthiadau mewn aerobeg,
paffymarfer (boxercise) a step ac yn gwella
ein hystafell ffitrwydd.”
Simon Davis, Dirprwy Brifathro, Ysgol Bryn Tawe, Abertawe
“Fe ddefnyddion ni’r arian er mwyn ariannu
sesiynau hyfforddi chwaraeon gan ganolbwyntio ar
gyflymder, ystwythder a ffitrwydd. Fe drefnom
sesiwn dydd Gwener ar gyfer ein tîm pêl-droed
merched. Gan fod y sesiynau mor boblogaidd
fe fyddwn yn eu trefnu eto –
gydag arian a godwyd gan Plant dros Blant.
Mathew Muspratt,Cydlynydd Addysg Gorfforol, Rice
Lane Junior School, Lerpwl
Mae’r arian a godwyd gan ysgolion yng ngwledyd
Prydain wedi ei gyflwyno i Ymddiriedolaeth
Cartref Pattaya ar gyfer ysgol bentref yn nhalaith
Krabi, gwlad Thai. Difrodwyd y
pentref gan y tsunami ym mis Rhagfyr 2004 a
chollodd nifer o’r plant un neu ddau o’u rhieni.
Defnyddir arian Plant dros Blant i sefydlu fferm
ginio er mwyn darparu myfyrwyr â phryd
da o fwyd bob dydd.
Cyflwynwyd arian i’r IDS (International
Development Through Sports), sef
ymddiriedolaeth elusengar Chwaraeon
gwledydd Prydain. Defnyddir yr arian ar
gyfer prosiect yn Cameroon a fydd yn adfywhau
cymuned trwy gyfrwng chwaraeon. Bydd hyn
yn ei dro’n ysbrydoli arweinwyr lleol ifanc
|